Cyngor Tref Cei Newydd

(Cei Newydd): Mae Cei Newydd yn dref ar lan y môr yng Ngheredigion, Cymru sydd ag oddeutu 1,200 o bobl yn byw ynddi. Gyda harbwr a thraethau melyn ar lannau Bae Ceredigion, mae’r dref yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac yn cynnal diwydiant pysgota traddodiadol.

Cei Newydd, Ceredigion

Tan ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid oedd ond ychydig o fythynnod to gwellt yng Nghei Newydd, wedi’u hamgylchynu gan dir amaethyddol, ac roedd yr harbwr naturiol yn darparu lloches i gychod pysgota ac ambell i long fasnachol fechan. Pasiwyd Deddf Harbwr Cei Newydd ym 1835 ac adeiladwyd pier cerrig am gost o £7,000. Cafwyd cynnydd mewn masnachu yn sgil hynny, ac adeiladwyd tai newydd wrth i ymfudwyr economaidd gyrraedd y dref. Dechreuodd seiri llongau weithredu a thyfodd y dref eto pan adeiladwyd rhesi o dai i fyny’r rhiw uwchlaw’r bae.

Twristiaeth ac adloniant

Yr hyn sy’n difyrru ymwelwyr yn bennaf yw’r harbwr hardd a’r traeth melyn mawr, a’r cyfle i weld y dolffiniaid trwynbwl sy’n byw ym Mae Ceredigion.

Ceir canolfan dreftadaeth yn y dref a chanolfan bywyd y môr, yn ogystal â’r gymysgedd arferol o siopau a bwytai.