Am Cei Newydd

Darllen Am Cei Newydd: mae Cei Newydd yn dref ar lan y môr yng Ngheredigion, Cymru sydd ag oddeutu 1,200 o bobl yn byw ynddi. Gyda harbwr a thraethau melyn ar lannau Bae Ceredigion, mae’r dref yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac yn cynnal diwydiant pysgota traddodiadol.

Hanes

Tan ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid oedd ond ychydig o fythynnod to gwellt yng Nghei Newydd, wedi’u hamgylchynu gan dir amaethyddol, ac roedd yr harbwr naturiol yn darparu lloches i gychod pysgota ac ambell i long fasnachol fechan. Pasiwyd Deddf Harbwr Cei Newydd ym 1835 ac adeiladwyd pier cerrig am gost o £7,000. Cafwyd cynnydd mewn masnachu yn sgil hynny, ac adeiladwyd tai newydd wrth i ymfudwyr economaidd gyrraedd y dref. Dechreuodd seiri llongau weithredu a thyfodd y dref eto pan adeiladwyd rhesi o dai i fyny’r rhiw uwchlaw’r bae.

Erbyn y 1840au, cyflogwyd mwy na tri chant o ddynion mewn tair canolfan adeiladu llongau; un yng nghanol y dref, un mewn bae ychydig tua’r gogledd yn Nhraethgwyn ac yn yng Nghei Bach, traeth cerrig ymhellach tua’r gogledd o dan glogwyn coediog. Yma adeiladwyd cychod pysgota a sgwneri a fyddai’n hwylio ar hyd yr arfordir, yn ogystal â llongau mwy a fyddai’n hwylio i’r Amerig ac Awstralia. Bryd hynny, yn ogystal â’r seiri llongau, roedd hanner dwsin o efeiliau yng Nghei Newydd, tri o wneuthurwyr hwyliau, tair o rafflannau a ffowndri. Roedd y rhan helaeth o ddynion y dref yn forwyr neu gyda gwaith oedd a wnelo â’r môr.

Erbyn 1870, ni adeiladwyd llongau yng Nghei Newydd mwyach, ond roedd y rhan fwyaf o ddynion oedd yn byw yno’n dal i weithio ar y môr. Roedd yno ysgolion mordwyo yn y dref a gŵyr o Gei Newydd oedd capteiniaid llawer o’r llongau rigin sgwâr olaf a fu’n hwylio i bedwar ban byd. Hyd heddiw, gall llygaid craff weld yr hen stordai, bellach yn cael eu rhoi at ddibenion eraill, yr hen gadwyni, y cylchoedd metel a’r capstanau, ac erys rhestr o dollau mewnforio ac allforio y tu allan i swyddfa’r harbwrfeistr.[3]

 Twristiaeth ac adloniant

Yr hyn sy’n difyrru ymwelwyr yn bennaf yw’r harbwr hardd a’r traeth melyn mawr, a’r cyfle i weld y dolffiniaid trwynbwl sy’n byw ym Mae Ceredigion. Ceir canolfan dreftadaeth yn y dref a chanolfan bywyd y môr, yn ogystal â’r gymysgedd arferol o siopau a bwytai. Gerllaw fe ddewch chi o hyd i Fferm Fêl Cei Newydd, y fferm wenyn fwyaf yng Nghymru, lle gallwch weld arddangosfeydd byw o’r gwenyn a phrynu mêl, medd a chŵyr gwenyn. Ar gyrion y dref ceir llawer o barciau gwyliau mawr a safleoedd carafannau.

Cynhelir Regata Bae Ceredigion bob blwyddyn, fel arfer ym mis Awst, a hynny ers y 1870au. Mae’n cynnwys chwaraeon ar y glannau (nofio, rhwyfo ac ati) a rasus cychod.

Yn ogystal â’r diwydiant croeso, mae pysgota ar y môr a phrosesu pysgod yn cyflogi llawer o bobl yn y dref.