Amdanom

Rol y Cyngor

Gwaith y Cyngor Cymuned

Dywed Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod pob rhan o Gymru mewn cymdeithas neu gymuned. Yn Lloegr “Cyngor Plwyf” yw’r ymadrodd o hyd ond yng Nghymru “Cyngor Cymuned” yw’r ymadrodd cyfriethiol a chyfansodiadol am yr unedau hyn o weinyddiad mewn llywodraeth leol.

Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i’r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol. Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol.

Beth yw strwythur y Cyngor?

Dangosir ar y dudalen nesaf restr o’r Cynghorwyr sydd yn eich cynrychioli. Mae cyfanswm o 10 Cynghorydd ar y cyfansoddiad heb fod yn gynrychiolwyr o unrhyw blaid wleidyddol a etholir bob 4 mlynedd. Cyflogir Clerc / Swyddog Ariannol i ddelio â’r holl drefnu cyfarfodydd a llunio agenda i ddelio gyda’r cofnodion a`r materion ariannol a gweinyddol o gario allan gwaith y Cyngor. Mae’r Cyngor yn prynu arbenigwyr o dro i dro i gynnal I dorri gwair, cynnal y llwybrau ac yn y blaen

Gall wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio cyn iddynt gael penderfyniad gan Gyngor Sir Ceredigion. Gweithia’r Cyngor mewn partneriaeth â mudiadau, clybiau a gwasanaethau’r ardal ac weithiau’n darparu cefnogaeth ariannol ar eu rhan. Penodir aelodau i Gorff Rheoli Ysgolion.

Sut mae’r Cyngor yn gweithio?

Bydd unrhyw waith gan y Cyngor yn digwydd ar ôl penderfyniadau mewn cyfarfodydd agored. Telir am unrhyw waith gydag arian cyhoeddus a ddaw i’r Cyngor drwy godi praesept sydd yn elfen o Dreth y Cyngor a osodir gan Gyngor Ceredigion

Beth yw praesept y Cyngor ?

Yn 2020/21  mae praesept y Cyngor yn £16,072.64  Defnyddir y praesept i ariannu ystod eang o gyfrifoldebau’r Cyngor gan gynnwys y Parc Sglefr-fyrddio, Coetir Maesypwll, rhai llwybrau yn yr ardal a dodrefn stryd.

Mae’r praesept yn £21.36  i eiddo (Band D).

All y cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd?

Ar bob cyfrif. Mae croeso i chi ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig – a byddem yn annog hyn. Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod – fodd bynnag gall amgylchiadau arbennig ganiatáu’r cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad. Byddwn yn cyfarfod unwaith y mis , ac eithrio mis Awst, yn arferol ar y dydd Llun diwetha’r mis. Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Goffa Cei Newydd.

Cyfarfodydd Blynyddol

Mae ar y Cyngor rwymedigaeth cyfriethiol trwy Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i gynnal cyfarfod blynyddol ac hynny ym mis Mai. Y Cyngor sydd yn penderfynu ar y dyddiad. Eitem cyntaf ar y rhaglen fydd ethol Cadeirydd y Cyngor Tref am y deuddeg mis nesaf a chyflwyno datganiad o dderbyn swydd.

Ethol

I fod yn gymwys i swydd cynghorydd , rhaid i berson fod heb eu anghymwyso dan y gyfraith, yn deiliad Prydeinig, ac wedi cyrraedd 21 oed.

Rhaid i’r ymgeisydd hefyd fod yn:

  • etholwr llywodraeth leol
  • fod drwy gydol deuddeg mis cyn y dyddiad ethol yn meddiannu fel tenant neu berchen ar ryw dir neu adeiladau yn y cylch neu’n ddinesydd hyn
  • fod a’i brif, neu unig le gweithio, yn y deuddeg mis cyn ethol, yn y cylch
  • fod yn byw drwy gydol y deuddeg mis hwnnw yn y cylch , neu o fewn tair milltir i’r cylch

Ymholiadau

Cysylltwch a Chlerc y Cyngor os oes unrhyw ymholiad ynglyn a gweithred neu rheolau y Cyngor.